Y PWERAU STATUDOL A’R PWERAU ERAILL SYDD GAN GYNGOR CYMUNED BAGILLT ERS EI GYCHWYNIAD YM MIS EBRILL 1985

1. LLOCHESI BWS

Trwsio a gofalu am lochesi bws y Cyngor Cymuned. Darparu lloches newydd o garreg yn Boot End (A548) a lloches o frics ger Swyddfa Bost Riverbank. Cânt oll eu gwirio a’u trwsio, eu glanhau a’u hailbeintio yn rheolaidd gan Ofalwr y Gymuned. Mae seddi i gael eu gosod yn lloches bws Ystâd y Faenor yn 2013 a Riverbank yn 2014.

2. GOLEUADAU NADOLIG

Yn 2002, dechreuwyd gosod goleuadau’r Nadolig trwy gytundeb gyda dau dafarn yn y Stryd Fawr a chafodd y goleuadau yma eu gwella yn 2003 a 2004 a’u hymestyn i gynnwys eiddo arall yn y Stryd Fawr. Yn 2006, estynnwyd y goleuadau ymhellach i gynnwys goleuadau rhaff ar bolion lamp ond rhoddwyd y gorau i hyn ar ôl blwyddyn oherwydd fandaliaeth. Yn 2009, gosodwyd llusernau sbâr yn y Stag Inn ac yn Forresters Hall, ond yn 2010 penderfynwyd rhoi’r gorau i ddarparu goleuadau yn gyfan gwbl am fod llai o safleoedd ar gael i’w gosod ynddynt.

3. GOFALWR Y GYMUNED

Ym mis Hydref 2001, dechreuwyd defnyddio Gofalwr Ystadau Cyngor Sir y Fflint i wneud dyletswyddau’r Cyngor Cymuned am wythnos bob mis, hynny ydy, wythnos o waith wedi ei ledaenu dros bythefnos. Gwnaed hyn am gost y cytunwyd arni ac adolygir y gost yn flynyddol, hyd fis Mawrth 2014 ar hyn o bryd, yn dilyn adolygiad o’r trefniadau rhwng y ddau Gyngor yn 2013. Mae’r dyletswyddau wedi cynnwys codi sbwriel (yn cynnwys biniau sbwriel), atgyweiriadau bach i osodion y Cyngor, peintio llochesi bysiau/seddi cyhoeddus, glanhau graffiti, rhoi gwybod i’r awdurdodau priodol am atgyweiriadau a gwneud tasgau gofynnol/y cytunwyd arnynt yn nhai preifat rhai o bobl hŷn y pentref, megis symud sbwriel, torri gwrychoedd, tynnu eiddew, atgyweiriadau bychain a gwaith hefyd i fudiadau lleol. Ers mis Mai 2013, ceir adroddiadau rheolaidd yng nghyfarfodydd y Cyngor am y tasgau a wnaed yn y mis(oedd) blaenorol.

4. YMGYNGHORIAD

Ceir ymgynghoriad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y Llywodraeth Ganolog a’i hasiantaethau; gan y cyfleustodau cyhoeddus a Chyngor Sir y Fflint unedol er mwyn ceisio barn a sylwadau am y newidiadau sydd ar y gweill.

5. YR AMGYLCHEDD

Cymerwyd rhan yn yr Ymgyrch ‘Cadw Delyn yn Daclus’ yn y gorffennol, ymgeisir mewn adrannau o’r cystadlaethau ‘Pentref Taclusaf’, prynir bylbiau a llwyni i’w plannu gan ysgolion lleol a Chanolfannau Ieuenctid a phrynir amser y Gofalwr Cymunedol i wneud dyletswyddau codi sbwriel.

6. CYMORTH ARIANNOL

Rhoddion yn flynyddol i fudiadau lleol, o fewn y meini prawf y cytunwyd arnynt, i helpu i dalu’r costau rhedeg a’r treuliau penodol sy’n cael eu pennu yng nghyfarfodydd mis Hydref a Chwefror y Cyngor. Rhoddir ystyriaeth grant yn flynyddol i’r Ganolfan Gymuned hefyd drwy dalu costau dŵr/carthffosiaeth ac yswiriant, a grant hefyd ers 2011 i’r Clwb Bowlio ar gyfer gwaith cynnal a chadw’r grin ac ers 2014 i’r Llyfrgell Cymuned er mwyn dalu costau trydan ac yswiriant. Rhoddir grantiau unwaith yn unig ar gyfer eitemau penodol i fudiadau lleol. Yn 2011, ariannodd y Cyngor y gost o gadw Llyfrgell Bagillt yn agored am chwe mis er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am ei dyfodol yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint y dylid ei chau. Cymorth o £3000 dros 3 blwyddan i’r Urdd Eisteddfod y Fflint 2016.Ymgeisiwch yma.

7. LLWYBRAU TROED

Arwyddion ar lwybrau cerdded mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Priffyrdd. Tynnu sylw’r Awdurdod Priffyrdd at rwystrau, yr angen am safleoedd ac ati, yr hawl i gael eu hysbysu a sylwadau am wyriadau ac ati. Yn 1991/92, cynhyrchwyd Canllaw i Lwybrau Troed Lleol, a chyhoeddwyd ail fersiwn yn 1995. Cymerwyd rhan mewn arolwg o lwybrau troed ac, yn 1994/95, cafwyd estyniad caniataol i lwybr troed Rhif 13.

8. BASGEDI CROG

Dechreuwyd darparu 8 basged grog ar bedair colofn yn y Stryd Fawr yn 2005, ac roedd y gwaith yn cynnwys trefnu i’w codi, eu dyfrio a’u tynnu. Parhaodd hyn hyd 2007. Nid yw’n digwydd ar hyn o bryd oherwydd bod angen ymdrin â’r trefniadau dyfrio.

9. GOLEUADAU (LLWYBR TROED)

Darparu colofnau goleuadau newydd yn y gorffennol yn unol â’r cyn Gyngor Bwrdeistref Delyn yn y Stryd Fawr a cholofnau ychwanegol yn Ffordd Highfield, Rhodfa Trebor, Tyn Twll, Lôn Gadlys, Foel Gron a Phen-y-Glyn. Yn 1995/96, codwyd safon y lampau i rai safonol 35 sox (cyflawnwyd 10 yn y flwyddyn). Cyngor Sir y Fflint sy’n gyfrifol am gynnal a chadw, trwsio a gwneud newidiadau trydanol yn y dyfodol.

10. SBWRIEL

Darparu biniau sbwriel newydd (gyda Chyngor Sir y Fflint yn eu gwagio) ac adnewyddu’r rhai presennol fel y bo’n angenrheidiol. Cafwyd gwell gwasanaeth glanhau amwynderau (ysgubo strydoedd/casglu sbwriel), y talwyd amdano gan y Cyngor Cymuned, am ddeuddeg mis gyda’r cyn Gyngor Bwrdeistref Delyn.

11. AMRYWIOL

Gweithredu fel ‘carfan bwyso’ gydag awdurdodau lleol eraill, Awdurdodau Iechyd a’r Heddlu a’r cyfleustodau cyhoeddus, i sicrhau nad yw gwasanaethau lleol yn cael eu lleihau, gan dynnu sylw at ddiffygion ac awgrymu gwelliannau. Daw Rheolwr Rhawd Gymunedol yr Heddlu a/neu Swyddog Cymorth Cymunedol lleol yr Heddlu i gyfarfodydd y Cyngor.

12. TAFLEN NEWYDDION (Y CYNGOR)

Cychwynnwyd yn 2007 gyda dau rifyn y flwyddyn hyd 2009.

13. HYSBYSFYRDDAU

Eu darparu, eu gosod a gofalu amdanynt. Darparu’r byrddau yn y Ganolfan Gymunedol, yn Riverbank ac yn y Maes Parcio yn y Stryd Fawr sydd ar gael i’w defnyddio gan fudiadau lleol.

14. CYNLLUNIO

Derbyn copïau o’r holl geisiadau sy’n effeithio ar y gymuned ac arfer yr hawl i wneud sylwadau, gan gynnwys gwrthwynebiadau, sydd i gael eu hystyried gan yr Awdurdod Cynllunio (Cyngor Sir y Fflint).
Trafodir materion cynllunio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned ac mae croeso i’r cyhoedd ddod iddynt. I gwrdd â’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion a osodir gan Gyngor Sir y Fflint sydd cyn dyddiad y cyfarfod nesaf, gall y Cadeirydd, y Cynghorydd Sirol (ar yr amod ei fod ef neu ei bod hi’n aelod o’r Cyngor Cymuned) ac aelod lleol gytuno ar ymateb, yn amodol ar y meini prawf y cytunwyd arnynt. Ym misoedd y gwyliau, Awst a Rhagfyr, rhoddir y pŵer i benderfynu ar ymateb i’r saith aelod yn y ward berthnasol.

15. MANNAU CHWARAE/CYNLLUNIAU CHWARAE

Adnewyddwyd offer yn flynyddol ar y cyd gyda’r cyn Gyngor Delyn ar safleoedd ym Mron Haul, Bron-y-Wern, Ffordd Fictoria, Maenor, Pen-y-Glyn, Deans Close a Rhodfa Trebor. Yn 2011/12 cyfrannwyd at y gwaith gwella ym maes chwarae Walwen gydag arian cyfatebol gan Gyngor Sir y Fflint. Yn 2013/14 bydd adnewyddiad drwy ariannu cyfatebol ym maes chwarae Rhodfa Trebor a Bron Haul yn 2014/15 a Manor yn 2015/16. Ers 1997/98, talwyd costau rhedeg cynllun chwarae’r haf mewn dau leoliad mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint. O 2002/03 hefyd cyfrannwyd at weithgareddau cynllun chwarae i blant hŷn yn Ward y Dwyrain ac yn 2007/08 rhoddwyd cynnig ar ddarparu ariannu cyfatebol i dalu costau cludiant er mwyn i’r ifanc o ardal y Wern fynd i’r Clwb Ieuenctid yn Boot End.

16. MEINCIAU CYHOEDDUS

Darparu, ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw, yn cynnwys peintio.

17. TAWELU TRAFFIG

Yn 1997/98 cychwynnwyd rhaglen dreigl o fesurau tawelu traffig mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, ar Ffordd Treffynnon a’r Stryd Fawr, ac yn 1998/99 ym Mron-y-Wern a Ffordd Bryntirion. Ers 2000/01, gosodwyd mesurau ffisegol ar Ffordd Bryntirion, Foel Gron, Ffordd Fictoria a Sandy Lane. Cafwyd rhaglenni pellach ar gyfer Tyddyn Messham, Pen-y-Glyn a Riverbank, y cytunwyd arnynt gydag Awdurdod y Briffordd ond yn dilyn hynny cawsent eu gohirio gan Gyngor Sir y Fflint. Yn 2012, am na chafwyd cynnydd yn y gwaith mae’r cyllid i gael ei ddefnyddio erbyn hyn ar gyfer cynlluniau amrywiol.

18. GEFEILLIO

Ym mis Ionawr 2013, cytunodd y Cyngor i efeillio Cymuned Bagillt yn Sir y Fflint gyda phentref Laxey, yn Sheading of Garff, Ynys Manaw oherwydd y cysylltiad o ran eu hanes diwydiannol. Digwyddodd hyn yn dilyn ymweliad yn haf 2012 gan Gadeirydd a chynrychiolwyr Cymdeithas Treftadaeth Bagillt ag Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Laxey a Lonan. Cododd y cysylltiad am fod Olwyn Ddŵr Cloddfa Snaefell wedi’i hadeiladu’n wreiddiol ym Magillt a chafodd ei hadfer gan Ymddiriedolaeth Laxey a Lonan. Cafodd ei hail agor ym mis Awst 2006 a newidiwyd ei henw i Lady Evelyn. Bydd y cysylltiad gefeillio drwy Gymdeithas Treftadaeth Bagillt.

19. COFEB RHYFEL

Gwella’r ardal o’i hamgylch a gofalu am y darn gyda’r planhigion. Yn 1997/98 trefnwyd i’w glanhau, yn 1998/99 adnewyddwyd yr enwau ar y Gofeb ac yn 2000/01, trwsiwyd hi ar ôl iddi gael ei fandaleiddio. O 2002/03 hyd 2005/06 rhoddwyd grant i Gymdeithas Treftadaeth Bagillt ar gyfer cynllun gwella ac yn 2008 talwyd am fainc gyhoeddus newydd hefyd.

20. GWEFAN

Yn 2007, sefydlwyd gwefan y Cyngor ar ôl cofrestru ar .gov a diweddarwyd hon yn 2010. Yn ogystal â gwybodaeth am y Cyngor a’i gysylltiadau, mae’n cynnwys copïau o gofnodion y cyfarfodydd ers mis Mai 2006. Yn 2011, cymerodd y Cyngor rôl awdurdod treialu gyda mapio digidol fel menter gan Fforwm Sir y Fflint. Yn 2013/14 cytunwyd i gyfieithu tudalennau ar y we i’r Gymraeg gan ddefnyddio arian o gronfa ddatblygu gwefannau Cynulliad Cymru.